Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 15 Medi 2021
Amser:
09.30 -
11.55
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12421
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS |
Tystion: |
Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Archwilio Cymru Lindsay Foyster, Archwilio Cymru Kevin Thomas, Archwilio Cymru Ann-Marie Harkin, Swyddfa Archwilio Cymru Anne-Louise Clark, Archwilio Cymru Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Martin Jennings (Ymchwilydd) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
2 Archwilio Cymru - Briff rhagarweiniol
2.1 Cafodd y Pwyllgor ei friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru a swyddogion Archwilio Cymru.
3 Arolygu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Ystyried trefniadau tâl
3.1 Trafododd y Pwyllgor y trefniadau tâl ar gyfer recriwtio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru nesaf a chytunwyd arnynt.
4 Y Dreth Gwarediadau Tirlenwi: Adolygiad annibynnol
4.1 Trafododd y Pwyllgor gwmpas arfaethedig yr adolygiad annibynnol o’r Dreth Gwaredu Tirlenwi a chytunwyd i ymateb i'r Gweinidog.
5 Grŵp Adolygu Cyllideb
5.1 Trafododd y Pwyllgor y papur cefndir ar Grŵp Adolygu Cyllideb arfaethedig.
6 Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Trafod y dull o weithredu
6.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.
7 Trysorlys Cymru - Briff rhagarweiniol
7.1 Cafodd y Pwyllgor ei friffio gan Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru.
8 Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor
8.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a’r ohebiaeth gysylltiedig.